Bwthyn

Bwthyn unllawr yw hwn mewn safle prydferth ar ein fferm laeth. Gellir cerdded oddi yma at lan Afon Dwyfach neu droedio heddwch Y Lôn Goed. O’r ardd a’r ystafell haul ceir golygfeydd ysgubol o Fae Ceredigion a mynyddoedd Eryri.

Yn BWTHYN ceir;

  • Lolfa gydag ardal bwyta;
  • Cegin;
  • Ystafell wely dwbl gydag ystafell ymolchi (efo bath) en suite;
  • Ystafell wely gyda dau wely sengl ac ystafell gawod en suite;
  • Gardd gaeedig gyda barbeciw a dodrefn gardd;
  • Ystafell haul;
  • Safle parcio;
  • Golygfeydd arbennig o Eryri a Bae Ceredigion.

Mae’r cyfarpar yn y gegin yn cynnwys popty a hob trydan, microdon, oergell, rhewgell, peiriant golchi llestri, peiriant golchi/sychu dillad, tecell trydan, tebot, cafetiere, sosbenni da a llestri Portmeirion.

Yn y Lolfa mae teledu ar y wal, chwaraewr DVD a mynedfa i’r Ystafell Haul drwy’r drysau dwbl.

Gwres canolog olew sydd yma.

Darperir tywelion a bydd y gwelyau yn barod ar gyfer ein hymwelwyr.

Holiday Cottages in Snowdonia - cliciwch yma