Pethau i'w Gwneud

Mae Eryri yn enwog am olygfeydd anhygoel, am gefn gwlad agored, traethau prydferth, mynyddoedd geirwon a llynnoedd heddychlon. Does unman gwell i ddianc am wyliau gyda digonedd i’w wneud, i chwarae, i ddysgu neu i ymlacio.

Cerdded a Beicio
Mae yma lwybrau niferus a digon o gyfleon i grwydro cefn gwlad. Bydd cerddwyr a beicwyr wrth eu bodd efo’r Lôn Las o Gaernarfon i’r Felinheli a Lôn Eifion o Gaernarfon i Gricieth.

Hwylio
Mae’r cyfleusterau hwylio yn ardderchog o’r hwylfan yn y Felinheli, Caernarfon a Phwllheli ac o harbwr enwog Porthmadog a’r Bermo.

Pysgota
Yma yn Eryri yn y bryniau mae afonydd a llynnoedd gwych i bysgota. Ceir pysgota môr, pysgota brithyll a physgota bras yma hefyd.

Golff
Ceir amrywiaeth o Gyrsiau Golff cyfeillgar yn yr ardal o Gaernarfon, Cricieth, Porthmadog a’r enwog St. David yn Harlech.

Cestyll
Mae cestyll Eryri yn syfrdanol. Mae’n werth ymweld â Chaer Rhufeinig Segontium, Cestyll y Tywysogion Cymreig yng Nghricieth, Llanberis a Dolwyddelan a chaerau Edward 1 yng Nghaernarfon, Conwy a Harlech.

Rheilffyrdd Cledrau Cul
Mwynhewch daith ar un o’r trenau hyn gan gynnwys rheilffordd nodedig rhac a phiniwn Yr Wyddfa.

Bwyta Allan
Mae Eryri yn prysur ddatblygu ‘n ganolfan bwyd gourmet gyda lliaws o dai bwyta a thafarndai i’ch denu.

Atyniadau

  • Amgueddfa- fferm, llechi, copr, morol, Lloyd George ac Awyr.
  • Parc Gwledig
  • Llwybrau Fferm
  • Hwylfan i Blant
  • Canolfan Hwylio Cenedlaethol
  • Llethrau Sgio
  • Canolfan Goedwigaeth
  • Sŵ a ffermydd agored
  • Canolfan ddringo
  • Canolfannau Hamdden
  • Eiddo a Gerddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Tywydd
Mae Llif y Gwlff yn sicrhau mai ychydig iawn o farrug nac eira a gawn. Gwyntoedd o’r De-Orllewin a gawn amlaf, sy’n dda ar gyfer hwylio a syrffio. Dim ond rhyw 36 modfedd o law a gaiff Penrhyn Llŷn yn flynyddol.

I gael y rhagolygon diweddaraf cliciwch yma.