Prys Mawr
Mae’r tŷ fferm hwn wedi ei adnewyddu i safon uchel iawn. Saif yng nghanol caeau gwyrdd gyda golygfeydd o’r wlad oddi amgylch.
Mae’n cynnwys:
- Cegin anhygoel;
- Ystafell wlyb gyda chawod, bath, toiled a sinc;
- Ystafell fwyta;
- Lolfa gyda theledu Smart a chwaraewr DVD;
- Ar y llawr cyntaf mae ystafell wely dwbl gydag ystafell gawod en suite;
- Ystafell wely gyda dau wely sengl a thoiled a sinc en suite;
- Ystafell wely gyda dau wely sengl sydd yn troi’n wely maint mwyaf drwy gau’r sip. Mae yma doiled a sinc en suite.
- Y tu allan mae man eistedd gyda dodrefn gardd a barbeciw ac mae'r ardd yn gaeedig.
Yn y gegin foethus ceir peiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell, microdon, popty trydan Neff a hob trydan, tecell trydan, cafetiere a thostiwr.
Mae gwres canolog yma, darperir tywelion a bydd y gwelyau yn barod ar gyfer ein hymwelwyr.
Saif Prys Mawr nepell o’r Lôn Goed a gellir cerdded ar ei hyd i gyfeiriad y môr nes cyrraedd Llwybr yr Arfordir neu ei thramwyo i fwynhau’r heddwch.
Mae lôn feicio gerllaw.
Wrth droi i’r dde o Prys Mawr gellir ymweld â Ffynnon Cybi a cherdded i gopa Garn Bentyrch.
Holiday Cottages in Snowdonia - cliciwch yma