Min y Traeth
Ym Min y Traeth ceir llety o safon ar gyfer gwyliau teuluol mewn safle tawel ganllath o’r traeth yng Nghricieth.
Mae’n cynnwys y canlynol;
- Ystafell olchi gyda pheiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri a rhewgell.
- Cegin;
- Lolfa gysurus gyda theledu a chwaraewr DVD;
- Ystafell fwyta gyda golygfa o’r môr;
- Toiled ar y llawr isaf;
Ar y llawr cyntaf mae:
- Prif ystafell ymolchi;
- Ystafell wely dwbl gydag ystafell gawod en suite;
- Ystafell wely gyda dau wely sengl;
- Ystafell wely arall gyda dau wely sengl.
- O’r llawr cyntaf gellir gweld y Castell Canoloesol.
Yn y gegin ceir popty dwbl trydan, hob nwy, oergell, microdon, tecell trydan, tostiwr, cafetiere, sosbenni da a llestri Portmeirion.
Y tu allan mae safle eistedd a dodrefn gardd ac er ein bod yn croesawu cŵn nid yw’r ardd yn gaeedig.
Mae gwres canolog yma , darperir tywelion a bydd y gwelyau yn barod ar gyfer ein hymwelwyr.
Holiday Cottages in Snowdonia - cliciwch yma